Datganiad ar yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2019/20

Sefydlwyd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent (BGC) o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae BGC yn dwyn ynghyd sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus allweddol sy'n canolbwyntio ar wella llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn ardal Blaenau Gwent.

Mae gan y BGC ofyniad statudol i gynhyrchu adroddiad blynyddol bob blwyddyn ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion a nodir yn y Cynllun Llesiant: Y Blaenau Gwent a Garem 2018 i 2023.

Yng ngoleuni'r heriau parhaus a wynebir wrth ymateb i bandemig COVID-19, y bwriad yw cyhoeddi'r adroddiad cynnydd blynyddol ar gyfer 2019/20 yn yr Hydref 2020, sydd ychydig yn hwyrach na'r arfer.

Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn cymryd amser fel BGC i oedi a myfyrio ar yr hyn yr ydym wedi'i ddysgu gyda'n gilydd o gwrdd â heriau COVID-19 ac ail-ystyried ffocws ein gwaith ar y cyd ar gyfer y dyfodol.

Edrychaf ymlaen at rannu ein hadroddiad cynnydd blynyddol yn ddiweddarach eleni.

 

Y Cynghorydd Nigel Daniels

Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent

Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent