Egwyddor Datblygu Cynaliadwy
Mae’r Ddeddf wedi pennu ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ er mwyn dweud wrth sefydliadau sut i gyflawni eu dyletswydd dan y Ddeddf.
Wrth wneud eu penderfyniadau, rhaid i gyrff cyhoeddus wneud yn siŵr eu bod yn ystyried yr effaith y gallent ei chael ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol. Mae 5 peth y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus feddwl amdanynt i ddangos eu bod wedi dilyn yr egwyddor datblygu cynaliadwy. Bydd cadw at y dulliau gweithio hyn yn ein helpu ni i gydweithio’n well, osgoi ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol a mynd i’r afael â rhai o’r heriau hirdymor rydym yn eu hwynebu.
- Hirdymor - Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.
- Atal - Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.
- Integreiddio - Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
- Cydweithio - Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant.
- Cynnwys - Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu.