Dydd Mercher, 30 Medi 2020
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent wedi ei Adroddiad Blynyddol cyntaf 2019-20, yn amlinellu'r cynnydd rydym wedi'i wneud tuag at gyflawni ein pum nod llesiant yn ein cynllun llesiant lleol, 'Y Blaenau Gwent a Garem, 2018-23'.
Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2020
Mae gan y BGC ofyniad statudol i gynhyrchu adroddiad blynyddol bob blwyddyn ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion a nodir yn y Cynllun Llesiant: Y Blaenau Gwent a Garem 2018 i 2023. Yng ngoleuni'r heriau parhaus a wynebir wrth ymateb i bandemig COVID-19, y bwriad yw cyhoeddi'r adroddiad cynnydd blynyddol ar gyfer 2019/20 yn yr Hydref 2020, sydd ychydig yn hwyrach na'r arfer.
Dydd Llun, 15 Gorffennaf 2019
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol cyntaf, 'Ein Blwyddyn Gyntaf, 2018-19', yn amlinellu'r cynnydd rydym wedi'i wneud tuag at gyflawni ein pum nod llesiant yn ein cynllun llesiant lleol, 'Y Blaenau Gwent a Garem, 2018-23'. Lansiwyd yr adroddiad blynyddol yng Nghynhadledd Flynyddol y BGC, a gynhaliwyd yn Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy ddydd Llun 15fed Gorffennaf 2019.
Dydd Iau, 21 Mehefin 2018
Ym mis Mehefin 2018, lansiodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Blaenau Gwent ei Gynllun Llesiant; "Y Blaenau Gwent a Garem 2018-2023" yn y digwyddiad bioamrywiaeth mwyaf yn Ne Cymru.
Er mwyn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) y mae Blaenau Gwent wedi cwblhau cyfnod pontio ei Fwrdd Gwasanaethau Lleol i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'n bodoli i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y bobl sy'n byw yn ardal Blaenau Gwent
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn ymwneud â gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae ganddi saith gôl llesiant ac yn dweud wrth sefydliadau sut i weithio'n fwy cynaliadwy gyda’i gilydd i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf drwy ddilyn pum ffordd o weithio.
Mae Panel Dinasyddion Blaenau Gwent yn cynnwys preswylwyr o bob rhan o Flaenau Gwent sydd â diddordeb mewn cael dweud eu dweud a dylanwadu ar y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio. Mae darparwyr gwasanaethau lleol megis y Cyngor, yr Heddlu a'r Bwrdd Iechyd Lleol yn gwrando ar farn aelodau ein panel wrth gynllunio neu newid eu gwasanaethau. Mae gennym Banel Dinasyddion ar gyfer preswylwyr yn gyffredinol, Fforwm Mynediad i Bawb ar gyfer rhai sydd â diddordeb mewn materion cydraddoldeb neu y mae'r materion hynny yn effeithio arnynt, Fforwm Ieuenctid ar gyfer rhai 11 i 25 oed a Grŵp Ymgysylltu 50+ ar gyfer rhai dros 50. Cliciwch y ddolen islaw i gofrestru neu i gael mwy o wybodaeth.