Cynllun Ardal Ranbarthol

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar 6 Ebrill 2016. 

Mae’r Ddeddf yn newid y ffordd yr eir ati i asesu anghenion pobl a’r ffordd yr eir ati i ddarparu gwasanaethau- bydd gan y bobl mwy o lais yn y gofal a’r cymorth y maen nhw’n ei dderbyn.

Y mae hefyd yn hyrwyddo’r amrywiaeth o gymorth sydd ar gael yn y gymuned i leihau’r angen am gymorth ffurfiol, wedi’i gynllunio.

  • Bydd gwasanaethau ar gael i ddarparu’r cymorth cywir ar yr adeg gywir
  • Bydd mwy o wybodaeth a chyngor ar gael
  • Bydd asesiadau yn symlach a chymesur
  • Bydd gan ofalwyr hawl cyfartal i dderbyn asesiad i gael cymorth
  • Bydd pwerau cryfach i gadw pobl yn fwy diogel rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso.

 

Asesiad o Anghenion y Boblogaeth

Mae Rhan Dau, adran 14 y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn datgan bod rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol gynnal asesiad ar y cyd i ganfod anghenion gofal a chymorth, a’r cymorth sydd ei angen ar ofalwyr yn ardaloedd yr awdurdodau lleol.

Mae’r gofal a chymorth yn ymwneud â phobl y gwyddys y gwasanaethau cymdeithasol amdanynt a’r rheini sy’n derbyn cymorth drwy wasanaethau ataliol.

Bydd yr asesiad o anghenion y boblogaeth yn cynnwys dwy ran:

  • Asesu faint o bobl neu ofalwyr sydd angen gofal a chymorth ac i ba raddau y mae angen y fath gymorth.
  • Asesu ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer anghenion gofal a chymorth y boblogaeth, eu gofalwyr, i atal anghenion penodol rhag codi a dwysau, a’r camau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.

Cyhoeddwyd yr asesiad cyntaf o anghenion y boblogaeth yn Ebrill 2017. 

 

Cynllun Ardal Ranbarthol

Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd baratoi a chyhoeddi cynllun sy'n nodi ystod a lefel y gwasanaethau y maent yn bwriadu eu darparu, neu drefnu eu darparu, mewn ymateb i asesiad o anghenion y boblogaeth. Rhaid i gynlluniau ardal gynnwys y gwasanaethau penodol a gynllunnir mewn ymateb i bob thema graidd a nodwyd yn yr asesiad o'r boblogaeth. Fel rhan o hyn, mae'n rhaid i gynlluniau ardal gynnwys:

  • y camau gweithredu y bydd partneriaid yn eu cymryd mewn perthynas â'r meysydd integreiddio sydd o flaenoriaeth i Fyrddau Partneriaeth Ranbarthol;
  • achosion a manylion cronfeydd cyfun fydd yn cael eu sefydlu mewn ymateb i'r asesiad o'r boblogaeth;
  • sut y caiff gwasanaethau eu caffael neu sut trefnir eu darparu, gan gynnwys modelau cyflenwi eraill;
  • manylion y gwasanaethau ataliol fydd yn cael eu darparu neu eu trefnu;
  • camau sy'n cael eu cymryd mewn perthynas â darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth; a
  • y camau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rhaid i'r cynlluniau ardal cyntaf gael eu cyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2018 a bydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn sicrhau bod cysylltiadau rhwng y Cynllun Ardal a Chynlluniau Lles yr awdurdod lleol sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i hwyluso cydweithio ac osgoi dyblygu.

Cynhyrchwyd y Cynllun Ardal drafft a chroesawn eich barn a sylwadau erbyn dydd Gwener 9 Chwefror 2018.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â [email protected]