Gweithdy Blaenoriaethau Rhanddeiliaid

Ym mis Gorffennaf 2017 daeth dros  chwe deg o sefydliadau a phrosiectau ym Mlaenau Gwent ynghyd i helpu llunio'r prif flaenoriaethau ar gyfer llesiant yr ardal yn y dyfodol.

Arweiniwyd y gweithdy gan Stephen Gillingham, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Ymunwyd ag ef gan Samuel Taylor, Dirprwy Faer Ieuenctid, a amlinellodd bwysisgrwydd cynllunio llesiant ar gyfer pobl ifanc, fel cenedlaethau'r dyfodol ym Mlaenau Gwent.

Fe wnaeth y gweithdy alluogi Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent i gael gwell dealltwriaeth o farn, gwybodaeth a phrofiad y sawl a gymerodd ran o'r 'prif flaenoriaethau' a ddatblygwyd hyd yma. Mae'r blaenoriaethau hyn yn cynnwys: mynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac ymddygiad, annog hunaniaeth ddiwylliannol a chydnerthedd, datblygu ffyrdd i ffyniant a chadwraeth yr amgylchedd naturiol.

Sefydlwyd y blaenoriaethau hyn o raglen ymgysylltu ddiweddar Y Blaenau Gwent a Garem a gasglodd amrywiaeth eang o sylwadau gan breswylwyr ar draws y fwrdeistref.

Cafodd y sawl a gymerodd ran hefyd eu hannog i nodi sut y byddai'r blaenoriaethau yn cyflawni'r pum ffordd o weithio: hirdymor, atal, integreiddio, cydweithio a chynnwys.

Diolch i bawb a fynychodd ac a roddodd fewnbwn.

Y cam nesaf i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw ystyried yr holl adborth a gawsant a datblygu'r blaenoriaethau ymhellach yn amcanion llesiant a aiff wedyn i ymgynghoriad ffurfiol fel drafft gynllun llesiant.