Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Fy ngwaith i yw bod yn warchodwr cenedlaethau'r dyfodol. Mae hynny'n golygu helpu cyrff cyhoeddus a'r rhai sy'n gwneud polisi yng Nghymru i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau. Sophie Howe

Er enghraifft, os ydym yn gwybod y gallai tua 35% o swyddi yn y DU ddiflannu o ganlyniad i robotiaid, deallusrwydd artiffisial neu gyfrifiaduron, beth mae hynny’n mynd i’w olygu i chi, eich plant a’ch wyrion ac wyresau?

Rydym yn gwybod y byddwn yn byw’n hirach, ond a ydym am fyw bywydau iach, actif ynteu a ydym yn mynd i fyw gyda salwch a chyflyrau iechyd hirdymor?

Mae gwir angen i gyrff cyhoeddus ganolbwyntio ar sut mae eu penderfyniadau yn mynd i gael effaith hirdymor, a gweithio gyda’i gilydd i atal problemau rhag digwydd, gan gydnabod na all unrhyw gorff cyhoeddus unigol ar ben ei hun ymateb i rai o’r heriau mawr (dolen) a wynebwn.
Yn benodol, mae angen iddynt wrando ar bobl, cynnwys pobl, a deall y bywydau y mae pobl yn eu harwain.

Oherwydd os ydym yn deall yr hyn y mae pobl ei eisiau, yr hyn y maent ei angen a phryd maent ei angen, yna byddwn yn gallu ymateb yn well fel sector cyhoeddus, i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus

 Mae gennym i gyd ran i’w chwarae wrth adeiladu’r Gymru yr ydym am ei gweld yn y dyfodol.
Rwyf eisiau gwrando, dysgu a’n herio ni gyd i gyflawni hynny.

 Fy nyletswyddau cyffredinol yw:

“Hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn benodol i weithredu fel gwarcheidwad gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion ac annog cyrff cyhoeddus i roi mwy o ystyriaeth i effaith hirdymor yr hyn a wneir ganddynt.”

“Monitro ac asesu i ba raddau y mae’r nodau llesiant a osodwyd gan gyrff cyhoeddus yn cael eu gwireddu.”

Gallaf:

  • Ddarparu cyngor i gyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Gynnal adolygiadau o sut mae cyrff cyhoeddus yn cymryd i ystyriaeth effaith hirdymor eu penderfyniadau
  • Gwneud argymhellion yn dilyn adolygiad
  • Diffiniwyd diben fy sefydliad fel a ganlyn:
  • Amlygu materion
  • Amlygu’r materion pwysig, yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu cenedlaethau'r dyfodol
  • Cefnogi a herio
  • Cefnogi a herio cyrff cyhoeddus i feddwl am effaith hirdymor y pethau y maent yn eu gwneud
  • Gweithio gyda’n gilydd
  • Cefnogi a herio cyrff cyhoeddus i feddwl am effaith hirdymor yr hyn a wneir ganddynt
  • Gweithredu yn ogystal â thrafod

Gweithredu yn ogystal â thrafod – ysgwyddo’r hyn yr ydym yn dymuno ei weld mewn erail