I Blaenau Gwent A Garem

BGAGarem Banner (1)

Rhaglen Ymgysylltu Y Blaenau Gwent a Garem

Rhaglen Ymgysylltu Y Blaenau Gwent a Garem oedd prif raglen ymgysylltu cyhoeddus y BGC a oedd yn cynnwys dinasyddion a rhanddeiliaid ehangach yn weithredol wrth ddatblygu’r Cynllun Llesiant dros gyfnod o ddwy flynedd.

Mae’r BGC wedi ymrwymo yn ein cylch gorchwyl i’r Egwyddorion Ymgysylltu Cenedlaethol a’r Confensiwn Cenedlaethol y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), ac mae hefyd yn ddarostyngedig i’r Ddeddf Cydraddoldeb (2010).

Caiff y rhaglen ei goruchwylio gan Is-grŵp Ymgysylltu’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus sy’n nodi cynllun i’w gyflwyno. Mae’r cynllun yn cael ei graffu a’i gefnogi gan Grŵp Cymorth Strategol BGC.

Fe wnaethon ni fynd ati i ymgysylltu mewn camau yn unol â’r Canllawiau Statudol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a gwreiddio’r egwyddor “datblygu cynaliadwy” (a elwir hefyd yn bum ffordd o weithio) trwy gydol ein harferion gwaith.

 

Dulliau ymgysylltu

Yn ystod pob cam o’r rhaglen ymgysylltu, fe wnaethom gynnwys pobl trwy sgyrsiau wyneb yn wyneb trwy ddigwyddiadau stondin marchnad, trwy lenwi cardiau post, ysgrifennu cerddi, lluniadu lluniau, neu lenwi holiaduron (copïau papur neu ar-lein). Er mwyn helpu ymgysylltiad cymaint o bobl â phosib, cynhyrchwyd pecyn ysbrydoliaeth i annog ymgysylltu.

BGWWStrip

Cam 1 – Awst i Medi 2016

Roedd Cam 1 yn ymwneud â pharatoi asesiad o lesiant ym Mlaenau Gwent a sicrhau bod barn pobl yn yr ardal yn sail i’r asesiad.

Er mwyn cefnogi cynhyrchu’r Asesiad Llesiant, cyflwynodd y grŵp weithgareddau ymgysylltu rhwng Awst a Medi 2016. Yn ystod y rhain, gofynnwyd i bobl:

  1. Beth sy’n arbennig am Flaenau Gwent?
  2. Pa bethau sy’n bwysig ichi i fyw’n dda a mwynhau bywyd?
  3. Beth fyddai’n gwneud Blaenau Gwent yn lle gwell?
  4. Beth allwch chi ei wneud i wneud Blaenau Gwent yn lle gwell?

CYMBGWW1000

Cam 2 – Chwefror 2017

Cam 2 oedd yr ymgynghoriad ffurfiol ar yr Asesiad Llesiant Drafft. Cynhaliwyd ystod o weithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd ar draws Blaenau Gwent. Yn ystod y rhain, rhoddwyd adborth i bobl o Gam 1, a gofynnwyd iddynt:

  1. A oedd y wybodaeth a gyflwynwyd yn yr Asesiad Llesiant yn adlewyrchu’r Blaenau Gwent r oedden nhw’n ei adnabod, neu a oedd unrhyw beth ar goll?

Defnyddiwyd yr adborth o Gam 1 a 2 i helpu i gynhyrchu Asesiad Llesiant terfynol o’r ardal.

Cam 3 – Gorffennaf i Medi 2017

Drwy gydol y broses, fe wnaethom barhau i wella’r ffordd yr oeddem yn ymwneud â phobl wrth ddatblygu’r cynllun llesiant. Yn ystod Cam 3, yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd, rydym yn edrych yn weithredol i:

  • Gweithio mwy gyda phobl â nodweddion gwarchodedig;
  • Gweithio mwy gyda busnesau;
  • Dal mwy o wybodaeth ansoddol;
  • Cynyddu cyfraddau ymateb holiaduron
  • Gweithio mwy gyda Chynghorwyr
  • Mynd ati i ddal yr asedau cymunedol ar draws Blaenau Gwent, yn ogystal â chael cipolwg ar sut y gellir mynd i’r afael â rhai o’r heriau allweddol.

Roedd y wybodaeth hon yn werthfawr iawn gan ei bod yn helpu i lywio datblygiad y Cynllun Llesiant Drafft, gan gynnwys y blaenoriaethau posibl y mae angen i’r BGC ganolbwyntio arnynt. Gofynnwyd i bobl ystyried y 5 nod llesiant drafft a’r blaenoriaethau ac ystyried y cwestiynau canlynol:

  1. Pam ydych chi’n credu y dylai hyn fod yn flaenoriaeth i Flaenau Gwent?
  2. Beth ydych chi’n meddwl sydd angen ei wneud i helpu i gyflawni’r flaenoriaeth hon?
  3. Ydych chi’n gwybod am unrhyw waith sydd eisoes yn cael ei wneud i gyflawni’r flaenoriaeth hon?

Drwy gydol y broses roedd aelodau’r BGC a’r holl bartneriaid allweddol yn cymryd rhan weithgar wrth gydweithio i annog cymaint o bobl i gymryd rhan a chyfranogi, gan gynnwys staff.

Cryfhau Rhaglen Ymgysylltu Y Blaenau Gwent a Garem

Edrychom yn barhaus i ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau’n well ym mhob cam cyflwyno. Arweiniodd hyn at ailgynllunio’r broses ddadansoddi yng Nghyfnod 3 fel bod dyfyniadau dinasyddion ar gael yn rhwyddach i hysbysu’r broses o wneud penderfyniadau BGC, a lle rhoddwyd caniatâd, casglwyd codau post i gymharu lefelau cynnwys ar draws Blaenau Gwent.

Defnyddiwyd y dadansoddiad o wybodaeth a sicrhawyd o Gam 3 i lywio amcanion drafft terfynol a bennwyd gan y BGC ym mis Hydref 2017.

Cam 4 - Hydref i Ionawr 2017

Cefnogodd Cam 4 yr ymgynghoriad ffurfiol 12 wythnos ar y Cynllun Llesiant Cryno Drafft ‘Y Blaenau Gwent a Garem’. Yma fe wnaethom ofyn i bobl a oeddent yn cytuno â bwriadau’r ddogfen ac am unrhyw adborth cyffredinol am y cynllun (megis arddull, fformat, defnydd iaith ac ati).

Defnyddiwyd adborth a dderbyniwyd o Gam 4 i lywio datblygiad y Cynllun Llesiant Terfynol.

Cydnabyddiaeth ar gyfer arfer da

Mae’r BGCwedi ymrwymo tuag at ‘ymglymiad’, fel un o’r pum ffordd o weithio. Roedd yn falch o dderbyn cydnabyddiaeth am arfer gorau gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ym mis Gorffennaf 2017, y cyfeirir ati yn yr adroddiad fel “Llesiant Cymru: Cynllunio heddiw ar gyfer gwell yfory” Roedd yr adroddiad yn canmol Blaenau Gwent ar y ffyrdd creadigol a ddefnyddiwyd i ymestyn allan i pobl, a’r defnydd o waith celf dinasyddion a ddefnyddwyd yn uniongyrchol yn ei Asesiad Llesiant.