Ein Blwyddyn Gyntaf, 2018-19

Cyhoeddodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent ei Adroddiad Blynyddol cyntaf, 'Ein Blwyddyn Gyntaf, 2018-19' yng Nghynhadledd Flynyddol y BGC a gynhaliwyd yn Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy ddydd Llun 15fed Gorffennaf 2019.  Mae'r adroddiad yn amlinellu'r cynnydd a wnaed gennym ni tuag at gyflawni ein pum nod llesiant yn ein cynllun llesiant lleol, 'Y Blaenau Gwent a Garem, 2018-23', dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r adroddiad rhyngweithiol yn cynnwys cyfres o glipiau fideo byr, gan gynnwys blogiau, lluniau o'n digwyddiadau Sioe Ffordd Llesiant 2018 a hefyd yn amlygu'r camau nesaf ar gyfer cyflawni a chynigion newydd y byddwn yn eu hystyried yn hydref 2019.

Daeth y digwyddiad llwyddiannus â thros 100 o fynychwyr ynghyd o amrywiaeth o sefydliadau partner gwahanol a rhanddeiliaid ehangach ac roedd yn cynnwys siaradwyr allweddol o amrywiaeth o bartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol (fel Llywodraeth Cymru).

Amlygodd Rhan I o'r digwyddiad y cynnydd rydym wedi'i wneud tuag at gyflawni ein pum nod llesiant yn ein cynllun llesiant lleol, 'Y Blaenau Gwent a Garem, 2018-23', a mwynhaodd y rhai a fynychodd arddangosfa o rai o brif brosiectau'r bartneriaeth a gyflawnwyd gennym dros y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd Rhan II y digwyddiad yn canolbwyntio ar ein nod llesiant ‘manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer ffyniant’ a rhoddodd gyfle i'r rhai a oedd yn bresennol ystyried ‘Sgiliau'r Dyfodol: Defnyddio dull Cylch Bywyd', a ddilynwyd gan farchnad rhyngweithiol ac arddangosfeydd.