Cymryd Rhan

 

Panel Dinasyddion

 

 

Mae Panel Dinasyddion Blaenau Gwent yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o Flaenau Gwent sydd â diddordeb mewn dweud eu barn ar a dylanwadu ar y gwasanaethau a ddefnyddiant. Mae darparwyr gwasanaethau lleol fel y Cyngor, yr Heddlu a'r Bwrdd Iechyd Lleol yn gwrando ar farn aelodau ein panel pan fyddant yn cynllunio neu'n newid eu gwasanaethau.

Mae aelodau panel yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y digwyddiadau ymgysylltu a'r ymgynghoriadau diweddaraf yn eu hardal ac yn cael adborth cyson ar sut y mae eu barn wedi helpu i wella'r gwasanaethau a ddefnyddiant. Gall aelodau roi eu barn mewn nifer o ffyrdd megis digwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu, arolygon ar y we a drwy'r post, grwpiau ffocws ar-lein a gweithdai.

Mae gennym Banel Dinasyddion ar gyfer preswylwyr yn gyffredinol, Fforwm Mynediad i Bawb ar gyfer rhai sydd â diddordeb mewn materion cydraddoldeb neu y mae'r materion hynny yn effeithio arnynt, Fforwm Ieuenctid ar gyfer rhai 11 i 25 oed a Fforwm 50+ ar gyfer rhai dros 50. Cliciwch y ddolen islaw i gofrestru neu i gael mwy o wybodaeth.

Sut i ymuno â'r panel

Mae'n rhwydd ymuno â'r panel. Y cyfan sy'n rhaid ei wneud yw clicio'r ddolen islaw a llenwi ein ffurflen fer.

Cliciwch yma i ymuno â'r Panel Dinasyddion (dolen allanol)